Have you ever wondered, why did Jesus come?
If you lived in the best place, enjoying the best all the time – would you ever leave? Probably not! Yet, the Bible explains that Jesus Christ did just that. Jesus is the eternal Son of God – He’s always been there and always will be. As God, He enjoyed the splendour of Heaven but He was willing to leave that paradise and come to a world full of problems and
suffering. Have you ever wondered why?
Because we are not perfect, we cannot expect to go to God’s perfect Heaven. No matter how hard we try to be good enough, we always fall short of God’s perfection. No amount of good-living, no amount of religious activity will ever rid us of our problem of sin which separates us from God.
In the Old Testament (the ‘BC’ years of history), God promised to send the Messiah, the Christ, in order to live the sinless life we have failed to live and die to take the punishment which we as sinners deserve. These prophesies even detailed where and how the Christ was to be born, how He would suffer and die for others, rise from the dead and return to Heaven.
On the very first Christmas, Jesus was born in Bethlehem’s stable – just as God had promised. He had come into the world on a rescue mission, ‘Christ Jesus came into the world to save sinners’ (1 Timothy 1:15). Jesus left Heaven, took on our humanity so that He could represent us as a real but, sinless, person. The Bible tells us, ‘When the time had fully
come, God sent his Son, born of a woman, born under the law, to redeem those under the law…’ (Galatians 4:4-5). That baby of Bethlehem’s stable was no ordinary-person. This is Emmanuel, God with us.
The first Christmas is really the beginning of the Easter story. Jesus did not stay as a baby in the manger, He grew up and lived a sinless life which qualified Him to go to the cross that first Easter. There upon the cross, He was willing to suffer and die to pay for our sins. Turning from sin and trusting in Him means we can escape the judgment that our
sin deserves and know the assurance of peace with God and a certain future in the paradise of Heaven.
Why did Jesus come? He was born to die. As the Bible says, ‘For you know the grace of our Lord Jesus Christ, that though He was rich, yet for your sake He became poor, so that you through His poverty might become rich’ (2 Corinthians 8:9). Have you trusted Him?
Ddaru chi ‘rioed feddwl, pam y daeth Iesu?
Pe baech yn byw yn y lle gorau erioed, ac yn mwynhau y bywyd delfrydol – a fyddech chi’n ystyried gadael? Efallai na! Eto mae’r Beibl yn esbonio sut y mentrodd Iesu wneud yn union hyn. Iesu yw Mab tragwyddol Duw. Mae Ef, ‘O dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb’ (Salm90:2). Fel Duw mwynhaodd ysblander y nefoedd. Er hynny roedd yn fodlon gadael y paradwys hwnnw a dod i fyd sy’n llawn problemau a dioddefaint. ‘Da chi rioed wedi gofyn pam?
Oherwydd nad ydan ni’n berffaith fyddwn ni byth yn deilwng i gael mynediad i nefoedd perffaith Duw. Er ein hymdrechion i geisio bod yn deilwng, yr ydan ni’n wastad yn syrthio’n brin o berffeithrwydd Duw. Er gwaethaf ein holl waith da a’n gweithgareddau crefyddol ni all hyn gael gwared o’n pechod sy’n ein gwahanu oddi wrth Dduw.
Yn yr Hen Destament (yr adeg ‘Cyn Crist’ mewn hanes), addawodd Duw anfon y Meseia, y Crist i fyw y bywyd
dibechod yr ydan ni wedi methu ei fyw ac i gymeryd y gosb yr ydan ni fel pechaduriaid yn ei haeddu. Roedd
y proffwydoliaethau hyn hyd yn oed yn manylu ar ble a sut yr oedd Crist i gael Ei eni, sut y byddai’n dioddef
ac yn marw dros eraill, yn atgyfodi o’r meirw ac yn dychwelyd i’r nefoedd.
Ar y Nadolig cyntaf un ganwyd Iesu mewn stabl ym Methlehem yn union fel yr addawodd Duw. ‘Daeth Crist Iesu i’r byd i achub pechaduriaid’ (1Timotheus 1:15). Gadawodd Iesu’r nefoedd gan gymeryd ar ein dynoliaeth fel y gallai ein cynrychioli fel person go iawn ond yn ddibechod. Dywed y Beibl, ‘Pan ddaeth cyflawniad yr amser, anfonodd Duw ei Fab, wedi ei eni o wraig, wedi ei eni dan y Gyfraith, i brynu rhyddid i’r rhai oedd dan y Gyfraith…’ (Galatiaid 4:4-5). Nid oedd y baban yn stabl Bethlehem yn berson cyffredin. Dyma Emmanuel, Duw gyda ni.
Yn wir y Nadolig cyntaf yw dechrau stori’r Pasg. Nid arhosodd yr Iesu fel baban mewn preseb. Tyfodd i fyny a byw bywyd perffaith a’i gwnaeth yn gymwys i fynd i’r groes ar y Pasg cyntaf. Yna ar y groes roedd yn fodlon dioddef a marw yn ein lle i dalu am ein pechodau. Golyga troi oddi wrth ein pechodau ac ymddiried Ynddo y medrwn ddianc rhag y farn mae ein pechod yn ei haeddu. Gallwn wybod y sicrwydd o heddwch gyda Duw a dyfodol sicr ym mharadwys y Nefoedd.
Pam y daeth Iesu? Daeth i farw. Fel y dywed y Beibl, ‘Oherwydd yr ydych yn gwybod am ras ein harglwydd Iesu Grist, fel y bu Iddo, ac yntau’n gyfoethog, ddod yn dlawd drosoch chwi, er mwyn i chwi ddod yn gyfoethog trwy ei dlodi ef’ (2 Corinthiaid 8:9). ‘Da chi wedi ymddiried ynddo?