Have you ever wondered, why did Jesus die?
Crucifixion was a cruel form of punishment by the Romans reserved for the worst of criminals. So, why did Jesus, who had done nothing wrong, die like this? The life of Jesus was lived out in the public gaze. Although religious leaders of the day criticised Him, they could not rightly accuse Jesus of any crime. When they managed to arrest Jesus, they bribed
people to tell lies about Him to secure a conviction. Even the Roman Governor at that time, Pontius Pilate, found no fault in Him. Yet, this innocent man, Jesus Christ, was sentenced to death – but it was actually all part of God’s plan!
Those religious leaders hated the fact that Jesus said things which equated Him with God. Yet, these were not empty claims. Jesus spoke and acted in this way because He is God! His birth, life, death and resurrection, fulfilled what God promised hundreds of years earlier in the Old Testament by the Prophets. His unique teachings and miracles proved He was no ordinary person. Every moment of every day, the Lord Jesus Christ lived a sinless and perfect life which qualified Him to bear sin’s punishment.
The Bible is clear about our situation, ‘For all have sinned and fall short of the glory of God’ (Romans 3:23). God is holy and just – sin must be punished. Because we have failed to live up to God’s standard, we cannot expect to go to His perfect Heaven. Having broken His ten commandments, we deserve God’s judgment. What is the punishment for sin? ‘For the wages of sin is death…’ (Romans 6:23a). Yet, the good news is that, ‘Christ Jesus came into the world to save sinners’ (1 Timothy 1:15). Because He was sinless, He could take God’s judgment which sinners deserve. ‘For Christ died for sins, once for all, the righteous for the unrighteous, to bring you all, the righteous for the unrighteous, to bring you to God’ (1 Peter 3:18). God’s Word (the Bible) shows us that the only way we can escape God’s judgment and receive His forgiveness, is through turning from our sin (repentance) and trusting Jesus Christ to save us. How can Jesus give us life beyond the grave in Heaven? Because He did not stay dead, but rose again from the grave. Because He lives, He can give eternal life to those who trust Him.
It is one thing to know why Jesus died on the cross, but it is another thing to trust Him and benefit from the forgiveness of sin, peace with God and an eternal home in Heaven which only Jesus and His death gives.
Ddaru chi ‘rioed feddwl, pam y bu farw Iesu?
Roedd croeshoelio yn ffordd greulon o gosbi wedi’i gadw gan y Rhufeiniaid ar gyfer y troseddwyr gwaethaf. Felly pam y bu i’r Iesu, ac yntau heb wneud dim o’i le, farw fel hyn? Cafodd bywyd yr Iesu ei fyw yn amlwg yn wyneb y cyhoedd. Er fod aweinwyr crefyddol y dydd yn ei feirniadu, ni allent yn gyfiawn gyhuddo Iesu o unrhyw drosedd. Wedi iddynt arestio Iesu byddent yn llwgrwobrwyo pobl i ddweud celwyddau amdano er mwyn dwyn cyhuddiadau yn ei erbyn. Ni fedrai hyd yn oed Llywodraethwr Rhufeinig y cyfnod, Pontius Pilat, ganfod unrhyw fai ynddo. Eto i gyd, dedfrydwyd y dyn diniwed hwn, Iesu Grist, i farwolaeth – ond roedd y cyfan yn rhan o gynllun Duw mewn gwirionedd!
Roedd yr arweinwyr crefyddol hynny yn casáu’r ffaith fod Iesu wedi dweud pethau oedd yn ei wneud yn gyfartal â Duw. Eto nid honiadau gwag oedd y rhain. Roedd Iesu’n siarad ac yn ymddwyn fel hyn am ei fod Ef yn Dduw! Roedd ei enedigaeth, ei fywyd, ei farwolaeth a’i atgyfodiad yn cyflawni addewidion Duw a addawyd yn yr Hen Destament gan y
Proffwydi gannoedd o flynyddoedd ynghynt. Profai ei wyrthiau a’i ddysgeidiaeth unigryw nad oedd Ef yn berson cyffredin. Am iddo fyw pob eiliad o bob dydd yn ddibechod a pherffaith roedd yr Arglwydd Iesu Grist yn gymwys i ddwyn cosb pechod arno’i Hun.
Mae’r Beibl yn datgan yn glir beth yw ein sefyllfa ni, ‘Oblegid pawb a bechasant ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw’ (Rhufeiniaid 3:23). Mae Duw yn sanctaidd a chyfiawn. Rhaid i bechod gael ei gosbi. Oherwydd i ni fethu byw yn ôl safon Duw ni allwn ddisgwyl mynd i’w nefoedd berffaith. Rydym yn haeddu barn Duw am i ni dorri ei ddeg gorchymyn. Beth yw’r gosb am bechod? ‘Canys cyflog pechod yw marwolaeth’ (Rhufeiniaid 6:23a). Eto, y newyddion da yw ‘Daeth Crist Iesu i’r byd i achub pechaduriaid’ (1 Timotheus 1:15). Am fod yr Iesu yn ddi-bechod gall gymeryd barn Duw, yr hyn mae pechaduriaid yn ei haeddu, ar ei ysgwyddau ei hun. ‘Oherwydd er eich mwyn chwi, bu Crist farw unwaith am byth dros
bechodau, y cyfiawn dros yr anghyfiawn i’ch dwyn chwi at Dduw’ (1 Pedr 3:18). Dengys Gair Duw (Y Beibl) mai’r unig ffordd y gallwn ddianc rhag barn Duw a derbyn Ei faddeuant yw troi oddiwrth ein pechod (edifarhau) ac ymddiried yn Iesu Grist i’n hachub.
Sut gall Iesu roi bywyd i ni tu hwnt i’r bedd yn y nefoedd? Oherwydd nid arhosodd yn farw, ond atgyfododd o’r bedd. Am Ei fod Ef yn fyw gall roi bywyd tragwyddol i’r rhai sy’n ymddiried ynddo. Un peth yw gwybod pam y bu i’r Iesu farw ar y groes, rhywbeth arall yw ymddiried ynddo ac elwa o faddeuant pechodau, heddwch gyda Duw a chart ref tragwyddol yn y nefoedd. Dim ond Iesu yn Ei farwolaeth all roi hyn i ni.